27 Does neb yn blino nac yn baglu'n ei rhengoedd;neb yn pendwmpian nac yn cysgu;neb â'i felt wedi ei datod,na charrai ei esgid wedi torri.
28 Mae eu saethau'n finiog,a'u bwâu i gyd yn dynn.Mae carnau'r meirch yn galed fel carreg,ac olwynion eu cerbydau yn troi fel corwynt.
29 Mae eu rhuad fel llew,maen nhw'n rhuo fel llewod ifancsy'n chwyrnu wrth ddal yr ysglyfaetha'i lusgo i ffwrdd – all neb ei achub!
30 Bryd hynny, bydd sŵn y rhuofel tonnau'r môr yn taro'r tir.Wrth edrych tua'r tirgwelir tywyllwch ac argyfwng,a'r golau'n troi'n dywyllwch yn y cymylau o ewyn.