5 Nawr, gadewch i mi ddweud wrthoch chibe dw i'n mynd i wneud gyda'm gwinllan:Dw i'n mynd i symud ei chlawdd iddi gael ei dinistrio;a chwalu'r wal iddi gael ei sathru dan draed.
6 Bydda i'n ei gwneud yn dir diffaith;fydd neb yn ei thocio na'i chwynnu,a bydd yn tyfu'n wyllt gyda mieri a drain.A bydda i'n gorchymyn i'r cymylaubeidio glawio arni.
7 Gwinllan yr ARGLWYDD holl-bwerusydy pobl Israel,a'r planhigion ofalodd amdanyn nhwydy pobl Jwda.Roedd yn disgwyl gweld cyfiawnder,ond trais a gafodd.Roedd yn disgwyl am degwch,ond gwaedd daer a glywodd!
8 Gwae y rhai sy'n cydio tŷ wrth dŷ,ac yn ychwanegu cae at gae,nes bod dim lle i neb arallfyw yn y wlad!
9 Dw i wedi clywed yr ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud:Bydd llawer o dai yn cael eu dinistrio,Fydd neb yn byw yn y tai mawr, crand.
10 Bydd deg acer o winllanyn rhoi llai na chwe galwyn o win;a chae lle heuwyd deg mesur o hadyn rhoi ond un mesur yn ôl.
11 Gwae'r rhai sy'n codi'n fore i yfed diod feddwol,ac yn aros ar eu traed gyda'r nosdan ddylanwad gwin.