8 Gwae y rhai sy'n cydio tŷ wrth dŷ,ac yn ychwanegu cae at gae,nes bod dim lle i neb arallfyw yn y wlad!
9 Dw i wedi clywed yr ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud:Bydd llawer o dai yn cael eu dinistrio,Fydd neb yn byw yn y tai mawr, crand.
10 Bydd deg acer o winllanyn rhoi llai na chwe galwyn o win;a chae lle heuwyd deg mesur o hadyn rhoi ond un mesur yn ôl.
11 Gwae'r rhai sy'n codi'n fore i yfed diod feddwol,ac yn aros ar eu traed gyda'r nosdan ddylanwad gwin.
12 Y rhai sy'n cael partïongyda'r delyn a'r nabl,y drwm a'r pib – a gwin!Ond sy'n cymryd dim sylw o'r ARGLWYDD,nac yn gweld beth mae'n ei wneud.
13 Felly,bydd fy mhobl yn cael eu caethgludoam beidio cymryd sylw.Bydd y bobl fawr yn marw o newyn,a'r werin yn gwywo gan syched.
14 Bydd chwant bwyd ar fyd y meirw,bydd yn agor ei geg yn anferth,a bydd ysblander Jerwsalem a'i chyffro,ei sŵn a'i sbri yn llithro i lawr iddo.