1 “Gwrandwch arna i, chi sy'n awyddus i wneud beth sy'n iawn,ac yn ceisio'r ARGLWYDD:Ystyriwch y graig y cawsoch eich naddu ohoni,a'r chwarel y cawsoch eich cloddio ohoni.
2 Meddyliwch am Abraham, eich tad,a Sara, y cawsoch eich geni iddi.Roedd ar ei ben ei hun pan wnes i alw arno,ond bendithiais e, a'i wneud yn llawer.
3 Bydd yr ARGLWYDD yn cysuro Seion,bydd yn cysuro ei hadfeilion.Bydd yn gwneud ei hanialwch fel Eden,a'i diffeithwch fel gardd yr ARGLWYDD.Bydd llawenydd a dathlu i'w glywed ynddi,lleisiau'n diolch a sŵn canu.
4 Gwrandwch arna i, fy mhobl;daliwch sylw, fy nghenedl.Achos bydda i'n dysgu pobl,a bydd fy nghyfiawnder yn olau i'r bobloedd.