1 “Gwrandwch arna i, chi sy'n awyddus i wneud beth sy'n iawn,ac yn ceisio'r ARGLWYDD:Ystyriwch y graig y cawsoch eich naddu ohoni,a'r chwarel y cawsoch eich cloddio ohoni.
2 Meddyliwch am Abraham, eich tad,a Sara, y cawsoch eich geni iddi.Roedd ar ei ben ei hun pan wnes i alw arno,ond bendithiais e, a'i wneud yn llawer.
3 Bydd yr ARGLWYDD yn cysuro Seion,bydd yn cysuro ei hadfeilion.Bydd yn gwneud ei hanialwch fel Eden,a'i diffeithwch fel gardd yr ARGLWYDD.Bydd llawenydd a dathlu i'w glywed ynddi,lleisiau'n diolch a sŵn canu.
4 Gwrandwch arna i, fy mhobl;daliwch sylw, fy nghenedl.Achos bydda i'n dysgu pobl,a bydd fy nghyfiawnder yn olau i'r bobloedd.
5 Dw i ar fin gwneud pethau'n iawn,dw i ar fy ffordd i achub,a bydd fy mraich gref yn rheoli pobloedd.Bydd yr ynysoedd yn troi ata i,ac yn disgwyl yn frwd i mi ddangos fy nerth.
6 Edrychwch i fyny i'r awyr,ac edrychwch ar y ddaear islaw:Bydd yr awyr yn gwasgaru fel mwg,y ddaear yn treulio fel dillad,a'r bobl sy'n byw arni yn marw fel gwybed,ond mae fy achubiaeth i yn aros am byth,a'm cyfiawnder ddim yn pallu.