11 Bydd y bobl ollyngodd yr ARGLWYDD yn rhyddyn dod yn ôl i Seion yn bloeddio canu!Bydd y llawenydd sy'n para am bythyn goron ar eu pennau!Byddan nhw'n cael eu gwefreiddiogan hwyl a gorfoledd,am fod galar a griddfan wedi dianc i ffwrdd.
12 “Fi, fi ydy'r un sy'n eich cysuro chi!Pam wyt ti'n ofni dyn meidrol –pobl feidrol sydd fel glaswellt?
13 Wyt ti wedi anghofio'r ARGLWYDD sydd wedi dy greu di?Yr un wnaeth ledu'r awyr a gosod sylfaeni'r ddaear!Pam mae gen ti ofn am dy fywyd drwy'r amserfod y gormeswr wedi gwylltioac yn barod i dy daro di i lawr?Ble mae llid y gormeswr beth bynnag?
14 Bydd yr un caeth yn cael ei ryddhau ar frys!Fydd e ddim yn marw yn ei gellnac yn llwgu.
15 Fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw disy'n corddi'r môr yn donnau mawrion– yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy fy enw i.
16 Dw i wedi rhoi neges i ti ei rhannuac wedi dy amddiffyn di dan gysgod fy llaw;Fi roddodd yr awyr yn ei le a gwneud y ddaear yn gadarn!A dw i wedi dweud wrth Seion: ‘Fy mhobl i ydych chi!’”
17 Deffra! Deffra!Saf ar dy draed, Jerwsalem –ti sydd wedi yfed o'r gwpanroddodd yr ARGLWYDD i ti yn ei lid!Ti sydd wedi yfed y gwpan feddwol i'w gwaelod!