20 Mae dy blant wedi llewygu!Maen nhw'n gorwedd ar gornel pob stryd,fel antelop wedi ei ddal mewn rhwyd –yn feddw gan ddigofaint yr ARGLWYDD,wedi eu ceryddu gan dy Dduw.
21 Felly, gwrando ar hyn, ti'r un druenussydd wedi meddwi, ond ddim ar win!
22 Dyma mae dy feistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud,y Duw sy'n dadlau achos ei bobl:“Edrych! Dw i wedi cymryd y cwpan meddwol o dy law di,y gostrel rois i i ti yn fy llid.Does dim rhaid i ti yfed ohoni byth eto!
23 Bydda i'n ei rhoi yn nwylo'r rhai wnaeth dy ormesua dweud wrthot, ‘Gorwedd i lawr, i ni gerdded drosot ti’ –Roedd rhaid i ti roi dy gefn i fodfel stryd i bobl ei sathru.”