7 Gwrandwch arna i, chi sy'n gwybod beth sy'n iawn,y bobl sydd â'm cyfraith yn eu calonnau.Peidiwch bod ag ofn pan mae pobl feidrol yn eich sarhau chi,na digalonni pan maen nhw'n gwneud sbort.
8 Bydd gwyfyn yn eu bwyta fel dilledyn,a'r pryf dillad yn eu llyncu fel gwlân.Bydd fy nghyfiawnder yn para am byth,a'm hachubiaeth o un genhedlaeth i'r llall.”
9 Deffra! Deffra! Dangos dy nertho fraich yr ARGLWYDD!Deffra, fel yn yr hen ddyddiau,yn yr amser a fu!Onid ti dorrodd Rahab yn ddarnau,a thrywanu'r ddraig?
10 Onid ti sychodd y môr,a dŵr y dyfnder mawr?Onid ti wnaeth ddyfnder y môryn ffordd i'r rhai gafodd eu rhyddhau gerdded arni?
11 Bydd y bobl ollyngodd yr ARGLWYDD yn rhyddyn dod yn ôl i Seion yn bloeddio canu!Bydd y llawenydd sy'n para am bythyn goron ar eu pennau!Byddan nhw'n cael eu gwefreiddiogan hwyl a gorfoledd,am fod galar a griddfan wedi dianc i ffwrdd.
12 “Fi, fi ydy'r un sy'n eich cysuro chi!Pam wyt ti'n ofni dyn meidrol –pobl feidrol sydd fel glaswellt?
13 Wyt ti wedi anghofio'r ARGLWYDD sydd wedi dy greu di?Yr un wnaeth ledu'r awyr a gosod sylfaeni'r ddaear!Pam mae gen ti ofn am dy fywyd drwy'r amserfod y gormeswr wedi gwylltioac yn barod i dy daro di i lawr?Ble mae llid y gormeswr beth bynnag?