1 Pwy fyddai'n credu'r neges glywon ni?Oes rhywun wedi gweld un grymus yr ARGLWYDD?
2 Doedd e wrth dyfu o'i flaenyn ddim mwy na brigyn,neu wreiddyn mewn tir sych.O ran ei olwg, doedd dim yn ein denu i edrych arno;dim oedd yn ei wneud yn arbennig o ddeniadol.
3 Cafodd ei ddirmygu a'i wrthod gan bobl;yn ddyn wnaeth ddiodde, yn gyfarwydd â phoen.Roedd pobl yn troi eu hwynebau i ffwrdd oddi wrtho;cafodd ei ddirmygu, a wnaethon ni mo'i werthfawrogi.
4 Ac eto, cymerodd ein salwch ni arno'i hun,a diodde ein poenau ni yn ein lle.Roedden ni'n meddwl ei fod yn cael ei gosbi,a'i guro a'i gam-drin gan Dduw.