3 Cafodd ei ddirmygu a'i wrthod gan bobl;yn ddyn wnaeth ddiodde, yn gyfarwydd â phoen.Roedd pobl yn troi eu hwynebau i ffwrdd oddi wrtho;cafodd ei ddirmygu, a wnaethon ni mo'i werthfawrogi.
4 Ac eto, cymerodd ein salwch ni arno'i hun,a diodde ein poenau ni yn ein lle.Roedden ni'n meddwl ei fod yn cael ei gosbi,a'i guro a'i gam-drin gan Dduw.
5 Do, cafodd ei anafu am ein bod ni wedi gwrthryfela,cafodd ei sathru am ein bod ni ar fai.Cafodd ei gosbi i wneud pethau'n iawn i ni;ac am iddo fe gael ei guro cawson ni ein hiacháu.
6 Dŷn ni i gyd wedi crwydro fel defaid –pob un wedi mynd ei ffordd ei hun;ond mae'r ARGLWYDD wedi rhoiein pechod ni i gyd arno fe.
7 Cafodd ei gam-drin a'i boenydio,ond wnaeth e ddweud dim;fel oen yn cael ei arwain i'r lladd-dy.Yn union fel mae dafad yn dawel pan mae'n cael ei chneifio,wnaeth e ddweud dim.
8 Cafodd ei gymryd i ffwrdd heb achos llys teg –a pwy oedd yn malio beth oedd yn digwydd iddo?Cafodd ei dorri i ffwrdd o dir y byw,a'i daro am fod fy mhobl i wedi gwrthryfela.
9 Y bwriad oedd ei gladdu gyda throseddwyr,ond cafodd fedd un cyfoethog.Roedd wedi gweithredu'n ddi-drais,a ddim wedi twyllo neb.