1 “Cân yn llawen, ti sy'n methu cael plant,ac sydd erioed wedi geni plentyn!Bloeddia ganu'n llawen,ti sydd heb brofi poenau wrth eni plentyn!Bydd gan y wraig sydd ar ei phen ei hunfwy o blant na'r wraig sydd wedi priodi.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
2 “Gwna fwy o le i dy babell,a lledu'r llenni lle rwyt ti'n byw!Estyn nhw allan! Paid dal yn ôl!Gwna'r rhaffau'n hirach, rho'r pegiau'n sownd.
3 Byddi'n ymledu allan i bob cyfeiriad!Bydd dy ddisgynyddion yn meddiannu gwledydd eraill,ac yn byw mewn dinasoedd gafodd eu gadael yn adfeilion.
4 Paid bod ag ofn, gei di ddim dy wrthod.Paid synnu, gei di ddim dy siomi!Byddi'n anghofio cywilydd dy ieuenctid,ac yn cofio dim am warth dy gyfnod fel gweddw.
5 Mae'r un wnaeth dy greu di wedi dy briodi di! –yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy ei enw e.Bydd Un Sanctaidd Israel yn dy ollwng di'n rhydd –ie, ‘Duw yr holl daear’.
6 Mae'r ARGLWYDD yn dy alw di yn ôl! –fel gwraig oedd wedi ei gadael ac yn anobeithio;gwraig ifanc oedd wedi ei hanfon i ffwrdd.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
7 “Gwrthodais di am ennyd fach,ond gyda thosturi mawr bydda i'n dod â ti'n ôl.