14 Byddi wedi dy sylfaenu ar gyfiawnder,a fyddi di ddim yn cael dy orthrymu.Fydd dim rhaid i ti fod ag ofn,a fydd dychryn ddim yn dod yn agos atat ti.
15 Os bydd rhywun eisiau ymladd hefo ti,nid fi fydd tu ôl i hynny:Bydd pwy bynnag sydd eisiau ymladd hefo tiyn syrthio, am mai ti wyt ti.
16 Os fi wnaeth greu y gofsy'n chwythu'r tân marwor gyda'i fegin,i wneud offer ar gyfer ei waith;fi hefyd sy'n creu y dinistriwr i ddinistrio.
17 Ond fydd yr arfau sydd wedi eu llunio i dy daro diddim yn llwyddo,a bydd y rhai sy'n codi i dystio yn dy erbynyn cael eu condemnio.Dyna ydy etifeddiaeth gweision yr ARGLWYDD,a'r hyn dw i wedi ei wneud iddyn nhw.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.