4 Paid bod ag ofn, gei di ddim dy wrthod.Paid synnu, gei di ddim dy siomi!Byddi'n anghofio cywilydd dy ieuenctid,ac yn cofio dim am warth dy gyfnod fel gweddw.
5 Mae'r un wnaeth dy greu di wedi dy briodi di! –yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy ei enw e.Bydd Un Sanctaidd Israel yn dy ollwng di'n rhydd –ie, ‘Duw yr holl daear’.
6 Mae'r ARGLWYDD yn dy alw di yn ôl! –fel gwraig oedd wedi ei gadael ac yn anobeithio;gwraig ifanc oedd wedi ei hanfon i ffwrdd.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
7 “Gwrthodais di am ennyd fach,ond gyda thosturi mawr bydda i'n dod â ti'n ôl.
8 Ro'n i wedi gwylltio am foment,ac wedi troi i ffwrdd oddi wrthot ti.Ond gyda chariad sy'n para am bythbydda i'n garedig atat ti eto,”—meddai'r ARGLWYDD, sy'n dy ollwng di'n rhydd.
9 “Mae'r un fath â'r dilyw yng nghyfnod Noa:Fel gwnes i addo bryd hynnyna fyddai'r ddaear yn cael ei boddi byth eto,Dw i'n addo i china fydda i'n ddig hefo chi, nac yn eich cosbi eto.
10 Falle y bydd y mynyddoedd yn symuda'r bryniau yn cael eu hysgwyd,ond bydd fy nghariad i atoch chi yn aros,a fydd fy ymrwymiad heddwch ddim yn siglo,”—meddai'r ARGLWYDD, sy'n dy garu di.