1 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Gwnewch beth sy'n iawn! Gwnewch beth sy'n deg!Dw i ar fin achub, a dangos fy nghyfiawnder.
2 Y fath fendith fydd i'r bobl sy'n gwneud hyn,a'r rhai hynny sy'n dal gafael yn y peth.Y rhai sy'n cadw'r saboth, heb ei wneud yn aflan,ac yn stopio ei hunain rhag gwneud drwg.
3 Ddylai'r estron sydd wedi ymrwymo i'r ARGLWYDD ddim dweud:‘Mae'r ARGLWYDD yn fy nghadw i ar wahân i'w bobl’.A ddylai'r eunuch ddim dweud,‘Coeden sydd wedi gwywo ydw i.’
4 Achos dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:I'r eunuchiaid hynny sy'n cadw fy Sabothau– sy'n dewis gwneud beth dw i eisiauac yn glynu'n ffyddlon i'r ymrwymiad wnes i –
5 dw i'n mynd i godi cofebyn fy nhŷ, y tu mewn i'w waliau;rhywbeth gwell na meibion a merched!a rhoi enw iddyn nhw fydd yn para am byth.