3 Ddylai'r estron sydd wedi ymrwymo i'r ARGLWYDD ddim dweud:‘Mae'r ARGLWYDD yn fy nghadw i ar wahân i'w bobl’.A ddylai'r eunuch ddim dweud,‘Coeden sydd wedi gwywo ydw i.’
4 Achos dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:I'r eunuchiaid hynny sy'n cadw fy Sabothau– sy'n dewis gwneud beth dw i eisiauac yn glynu'n ffyddlon i'r ymrwymiad wnes i –
5 dw i'n mynd i godi cofebyn fy nhŷ, y tu mewn i'w waliau;rhywbeth gwell na meibion a merched!a rhoi enw iddyn nhw fydd yn para am byth.
6 Ac i'r bobl estron sydd wedi ymrwymoi wasanaethu'r ARGLWYDD, ei garu,a dod yn weision iddo –pawb sy'n cadw'r saboth heb ei wneud yn aflan,ac sy'n glynu'n ffyddlon i'r ymrwymiad wnes i –
7 Bydda i'n eu harwain at fy mynydd cysegredigi ddathlu'n llawen yn fy nhŷ gweddi.Bydd croeso iddyn nhw ddod ag offrymau i'w llosgiac aberthau i'w cyflwyno ar fy allor i;achos bydd fy nhŷ i yn cael ei alwyn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd.”
8 Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud, yr un sy'n casglu ffoaduriaid Israel at ei gilydd:“Dw i'n mynd i gasglu mwy eto at y rhai sydd eisoes wedi eu casglu.”
9 “Dewch i fwyta, chi anifeiliaid gwylltion!Dewch, holl anifeiliaid y goedwig!