7 Bydda i'n eu harwain at fy mynydd cysegredigi ddathlu'n llawen yn fy nhŷ gweddi.Bydd croeso iddyn nhw ddod ag offrymau i'w llosgiac aberthau i'w cyflwyno ar fy allor i;achos bydd fy nhŷ i yn cael ei alwyn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd.”
8 Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud, yr un sy'n casglu ffoaduriaid Israel at ei gilydd:“Dw i'n mynd i gasglu mwy eto at y rhai sydd eisoes wedi eu casglu.”
9 “Dewch i fwyta, chi anifeiliaid gwylltion!Dewch, holl anifeiliaid y goedwig!
10 Mae'r gwylwyr i gyd yn ddall, ac yn deall dim.Maen nhw fel cŵn mud sy'n methu cyfarth –yn breuddwydio, yn gorweddian, ac wrth eu bodd yn pendwmpian.
11 Ond maen nhw hefyd yn gŵn barussydd byth yn gwybod pryd maen nhw wedi cael digon;bugeiliaid sy'n deall dim!Mae pob un wedi mynd ei ffordd ei hun,ac maen nhw i gyd yn ceisio elwa rywsut.
12 ‘Dewch, dw i am nôl gwin!Gadewch i ni feddwi ar gwrw!Cawn wneud yr un fath yfory –bydd hyd yn oed yn well!’