3 ‘Pam oeddet ti ddim yn edrychpan oedden ni'n ymprydio?’ medden nhw,‘Pam oeddet ti ddim yn cymryd sylwpan oedden ni'n cosbi ein hunain?’Am eich bod chi'n ymprydio i blesio'ch hunainac yn cam-drin eich gweithwyr yr un pryd!
4 Dych chi'n ymprydio i ffraeo a ffustio,Dim dyna'r ffordd i ymprydioos ydych chi eisiau i Dduw wrando.
5 Ai dyma sut ymprydio dw i eisiau? –diwrnod pan mae pobl yn llwgu eu hunain,ac yn plygu eu pennau fel planhigyn sy'n gwywo?Diwrnod i orwedd ar sachliain a lludw?Ai dyna beth wyt ti'n ei alw'n ymprydio,yn ddiwrnod sy'n plesio'r ARGLWYDD?
6 Na, dyma'r math o ymprydio dw i eisiau:cael gwared â chadwyni anghyfiawnder;datod rhaffau'r iau,a gollwng y rhai sy'n cael eu gormesu yn rhydd;dryllio popeth sy'n rhoi baich ar bobl.
7 Rhannu dy fwyd gyda'r newynog,rhoi lle i fyw i'r rhai tlawd sy'n ddigartrefa rhoi dillad i rywun rwyt yn ei weld yn noeth.Peidio ceisio osgoi gofalu am dy deulu.
8 Wedyn bydd dy olau'n disgleirio fel y wawr,a byddi'n cael dy adfer yn fuan.Bydd dy gyfiawnder yn mynd o dy flaen di,a bydd ysblander yr ARGLWYDD yn dy amddiffyn o'r tu ôl.
9 Wedyn, byddi'n galw, a bydd yr ARGLWYDD yn ateb;byddi'n gweiddi, a bydd e'n dweud, ‘Dw i yma’.Rhaid cael gwared â'r iau sy'n gorthrymu,stopio pwyntio bys, a siarad yn gas.