7 Rhannu dy fwyd gyda'r newynog,rhoi lle i fyw i'r rhai tlawd sy'n ddigartrefa rhoi dillad i rywun rwyt yn ei weld yn noeth.Peidio ceisio osgoi gofalu am dy deulu.
8 Wedyn bydd dy olau'n disgleirio fel y wawr,a byddi'n cael dy adfer yn fuan.Bydd dy gyfiawnder yn mynd o dy flaen di,a bydd ysblander yr ARGLWYDD yn dy amddiffyn o'r tu ôl.
9 Wedyn, byddi'n galw, a bydd yr ARGLWYDD yn ateb;byddi'n gweiddi, a bydd e'n dweud, ‘Dw i yma’.Rhaid cael gwared â'r iau sy'n gorthrymu,stopio pwyntio bys, a siarad yn gas.
10 Rhaid i ti wneud popeth fedri i helpu'r newynog,a chwrdd ag anghenion y rhai sy'n diodde –Wedyn bydd dy olau yn disgleirio yn y tywyllwch,a bydd dy dristwch yn troi'n olau fel canol dydd!
11 Bydd yr ARGLWYDD yn dy arwain bob amser;yn torri dy syched pan wyt ti mewn anialwch poeth,ac yn dy wneud yn gryf.Byddi fel gardd wedi ei dyfrio,neu ffynnon ddŵr sydd byth yn sychu.
12 Byddi'n ailgodi'r hen adfeilion,ac yn adeiladu ar yr hen sylfeini.Byddi'n cael dy alw yn"Atgyweiriwr y waliau" ac yn"Adferwr y strydoedd", i bobl fyw yno.
13 Os gwnei di stopio teithio ar y Saboth,a plesio dy hun ar fy niwrnod sbesial i;os gwnei di alw'r Saboth yn "bleser",parchu diwrnod sbesial yr ARGLWYDD,dangos parch ato drwy beidio gwneud beth wyt ti eisiau,plesio dy hun, a siarad fel y mynni –