1 Edrychwch, dydy'r ARGLWYDD ddim yn rhy wan i achub;a dydy e ddim yn rhy fyddar i glywed!
2 Mae eich drygioni chiwedi'ch gwahanu chi oddi wrth Dduw.Eich pechodau chi sydd wedi gwneud iddo guddio'i wyneba gwrthod gwrando arnoch chi.
3 Mae tywallt gwaed yn gwneud eich dwylo'n aflan,a phechod yn baeddu eich bysedd.Mae eich gwefusau'n dweud celwydda'ch tafod yn sibrwd twyll.
4 Does neb yn sefyll dros beth sy'n iawn,a neb sy'n mynd i'r llys yn onest;ond yn dibynnu ar eiriau gwag a chelwydd.Maen nhw'n achosi drygioniac yn esgor ar drafferthion.