10 Dŷn ni'n ymbalfalu wrth y wal fel pobl ddall;yn ceisio teimlo'n ffordd fel rhai sydd ddim yn gweld.Dŷn ni'n baglu ganol dydd, fel petai wedi tywyllu;dŷn ni fel cyrff meirw pan ddylen ni fod yn llawn egni.
11 Dŷn ni i gyd yn chwyrnu'n ddig fel eirthneu'n cwyno a cŵan fel colomennod.Dŷn ni'n edrych am gyfiawnder, ond ddim yn ei gael;am achubiaeth, ond mae allan o'n cyrraedd.
12 Dŷn ni wedi gwrthryfela mor aml yn dy erbyn di,mae'n pechodau yn tystio yn ein herbyn ni.Y gwir ydy, dŷn ni'n dal i wrthryfela,a dŷn ni'n gwybod yn iawn ein bod wedi methu:
13 Gwrthryfela, gwadu'r ARGLWYDDa throi cefn ar Dduw.Cymryd mantais anghyfiawn, bradychu,a palu celwyddau!
14 Felly mae'r hyn sy'n iawn yn cael ei wthio i ffwrdda chyfiawnder yn cadw draw.Mae gwirionedd yn baglu yn y gymdeithas,a gonestrwydd yn methu dod i mewn.
15 Mae gwirionedd wedi diflannu,ac mae'r un sy'n troi cefn ar ddrwg yn cael ei ysbeilio.Pan welodd yr ARGLWYDD fod dim cyfiawnderroedd yn anhapus iawn.
16 Pan welodd nad oedd neb o gwbl yn ymyrryd,roedd yn arswydo.Ond yna, dyma fe'i hun yn mynd ati i achub,a'i gyfiawnder yn ei yrru'n ei flaen.