17 Gwisgodd gyfiawnder fel arfwisg,ac achubiaeth yn helmed ar ei ben.Rhoddodd ddillad dial amdano,a gwisgo sêl fel mantell.
18 Bydd yn rhoi i bawb beth maen nhw'n ei haeddu –llid i'r rhai sydd yn ei wrthwynebu, a chosb i'w elynion;bydd yn talu'n ôl yn llawn i ben draw'r byd.
19 Bydd pobl o'r gorllewin yn parchu enw'r ARGLWYDD,a phobl o'r dwyrain yn gweld ei ysblander.Bydd e'n dod fel afon sy'n llifo'n gryf,ac ysbryd yr ARGLWYDD yn ei yrru yn ei flaen.
20 “Bydd e'n dod i Jerwsalem i ollwng yn rhydd,ac at y rhai yn Jacob sy'n troi cefn ar eu gwrthryfel,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
21 Dyma fy ymrwymiad i iddyn nhw, meddai'r ARGLWYDD: “Bydd fy Ysbryd i arnat ti, a fydd y neges dw i wedi ei rhoi i ti ddim yn dy adael di; byddi di a dy blant, a phlant dy blant, yn ei chofio o hyn allan ac am byth.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.