3 Mae tywallt gwaed yn gwneud eich dwylo'n aflan,a phechod yn baeddu eich bysedd.Mae eich gwefusau'n dweud celwydda'ch tafod yn sibrwd twyll.
4 Does neb yn sefyll dros beth sy'n iawn,a neb sy'n mynd i'r llys yn onest;ond yn dibynnu ar eiriau gwag a chelwydd.Maen nhw'n achosi drygioniac yn esgor ar drafferthion.
5 Maen nhw wedi deor wyau nadroedd,ac yn nyddu gwe pry copyn.Bydd pwy bynnag sy'n bwyta'r wyau hynny'n marw,ac os ydy un yn torri, mae neidr yn dod allan ohono.
6 Dydy'r gwe pry copyn ddim yn gwneud dillad;allan nhw ddim gwisgo'r hyn maen nhw'n ei nyddu.Mae popeth maen nhw'n ei wneud yn ddrwg,ac maen nhw'n llawn trais.
7 Maen nhw'n rhedeg at y drwg,ac yn barod iawn i ladd pobl ddiniwed.Maen nhw bob amser yn meddwl am wneud drwg,ac yn achosi llanast a dinistr.
8 Dŷn nhw'n gwybod dim am wir heddwch,a byth yn gwneud beth sy'n iawn.Mae'r ffyrdd maen nhw'n eu dilyn yn droellog,a fydd dim heddwch i'r rhai sy'n cerdded y ffordd honno.
9 Felly dyna pam nad ydy'r sefyllfa wedi ei sortio,ac nad ydy Duw wedi gwneud pethau'n iawn.Dŷn ni'n disgwyl am olau, ond does dim ond tywyllwch!edrych am lygedyn o obaith, ond yn crwydro yn y gwyll.