3 Ac roedd un yn galw ar y llall, ac yn dweud,“Sanctaidd! Sanctaidd! Sanctaidd!yr ARGLWYDD holl-bwerus!Mae ei ysblander yn llenwi'r ddaear gyfan!”
4 Roedd sylfeini ffrâm y drws yn ysgwyd wrth iddyn nhw alw, a'r neuadd yn llenwi gyda mwg.
5 Gwaeddais yn uchel, “Gwae fi! Mae hi ar ben arna i! Dyn gyda gwefusau aflan ydw i, a dw i'n byw yng nghanol pobl gyda gwefusau aflan; ac eto dw i wedi gweld y Brenin gyda'm llygaid fy hun – yr ARGLWYDD holl-bwerus.”
6 Yna dyma un o'r seraffiaid yn hedfan ata i, ac roedd ganddo farworyn poeth wedi ei gymryd oddi ar yr allor mewn gefel.
7 Cyffyrddodd fy ngwefusau gydag e, a dweud, “Edrych, mae hwn wedi cyffwrdd dy wefusau di, felly mae dy euogrwydd di wedi mynd, a talwyd iawn am dy bechod.”
8 Yna clywais lais fy Arglwydd yn dweud: “Pwy dw i'n mynd i'w anfon? Pwy sy'n barod i fynd ar ein rhan ni?” A dyma fi'n dweud, “Dyma fi; anfon fi.”
9 Yna dwedodd, “Dos, a dweud wrth y bobl yma:‘Gwrandwch yn astud, ond peidiwch â deall;Edrychwch yn ofalus, ond peidiwch â dirnad.’