13 Bydd coed gorau Libanus yn dod i ti –coed cypres, planwydd a pinwydd i harddu fy nghysegr,ac anrhydeddu'r lle mae fy nhraed i'n gorffwys.
14 Bydd plant y rhai oedd yn dy ormesuyn dod o dy flaen ac ymgrymu.Bydd y rhai oedd yn dy gasáuyn plygu'n isel ar y llawr wrth dy draed di.Byddan nhw'n dy alw di yn ‘Ddinas yr ARGLWYDD’,a ‘Seion Un Sanctaidd Israel.’
15 Yn lle bod wedi dy wrthod,a dy gasáu, a neb yn mynd trwot ti,bydda i'n dy wneud di'n destun balchder am byth –yn llawenydd o un genhedlaeth i'r llall.
16 Byddi'n yfed o laeth y cenhedloedd,ac yn sugno bronnau brenhinoedd.Wedyn byddi di'n gwybodmai fi ydy'r ARGLWYDD sy'n dy achub,Ie, fi, Un Cryf Jacob, sy'n dy ollwng di yn rhydd.
17 Bydda i'n dod ag aur yn lle pres ac arian yn lle haearn;pres yn lle coed a haearn yn lle cerrig."Heddwch" fydd yn llywodraethu arnat,a "Cyfiawnder" fydd dy feistri.
18 Fydd neb yn gweiddi ‘Trais!’ yn y wlad byth eto,a fydd dim dinistr o fewn dy ffiniau.Byddi'n galw dy waliau yn "Achubiaeth"a dy giatiau yn "Foliant".
19 Fydd dim angen yr haul i oleuo'r dydd,na llewyrch y lleuad yn olau yn y nos.Yr ARGLWYDD fydd dy olau di am byth,a bydd ysblander dy Dduw yn disgleirio arnat.