2 Er bod tywyllwch yn gorchuddio'r ddaear,a thywyllwch dudew dros y gwledydd;bydd yr ARGLWYDD yn tywynnu arnat ti,a bydd ei ysblander i'w weld arnat.
3 Bydd cenhedloedd yn dod at dy oleuni,a brenhinoedd yn troi at dy wawr ddisglair.
4 Edrych o dy gwmpas!Maen nhw i gyd yn ymgasglu! Maen nhw'n dod atat ti!Bydd dy feibion yn dod o wledydd pell,a dy ferched yn cael eu cario adre.
5 Pan weli hyn byddi'n wên i gyd;bydd dy galon yn curo wrth brofi'r wefr.Bydd cyfoeth y moroedd yn cael ei roi i ti,a cyfoeth y gwledydd yn dod atat.
6 Bydd gyrroedd o gamelod yn llenwi dy strydoedd;camelod o Midian, Effa a Sheba.Byddan nhw'n cario aur a thus,ac yn canu mawl i'r ARGLWYDD.
7 Bydd holl ddefaid a geifr Cedar yn cael eu casglu atat,a bydd hyrddod Nebaioth yna i ti eu defnyddio;byddan nhw'n aberthau derbyniol ar fy allor i.Bydda i'n gwneud fy nhŷ hardd yn harddach fyth!
8 Pwy ydy'r rhain sy'n symud fel cwmwl,ac yn hedfan fel colomennod i'w nythod?