3 Bydd cenhedloedd yn dod at dy oleuni,a brenhinoedd yn troi at dy wawr ddisglair.
4 Edrych o dy gwmpas!Maen nhw i gyd yn ymgasglu! Maen nhw'n dod atat ti!Bydd dy feibion yn dod o wledydd pell,a dy ferched yn cael eu cario adre.
5 Pan weli hyn byddi'n wên i gyd;bydd dy galon yn curo wrth brofi'r wefr.Bydd cyfoeth y moroedd yn cael ei roi i ti,a cyfoeth y gwledydd yn dod atat.
6 Bydd gyrroedd o gamelod yn llenwi dy strydoedd;camelod o Midian, Effa a Sheba.Byddan nhw'n cario aur a thus,ac yn canu mawl i'r ARGLWYDD.
7 Bydd holl ddefaid a geifr Cedar yn cael eu casglu atat,a bydd hyrddod Nebaioth yna i ti eu defnyddio;byddan nhw'n aberthau derbyniol ar fy allor i.Bydda i'n gwneud fy nhŷ hardd yn harddach fyth!
8 Pwy ydy'r rhain sy'n symud fel cwmwl,ac yn hedfan fel colomennod i'w nythod?
9 Mae cychod yr ynysoedd yn ymgasglu,a llongau masnach Tarshish ar y blaen.Maen nhw'n dod â dy blant o bell,a'u harian a'u haur hefo nhw,i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD dy Dduw –Un Sanctaidd Israel, sydd wedi dy anrhydeddu.