5 Pan weli hyn byddi'n wên i gyd;bydd dy galon yn curo wrth brofi'r wefr.Bydd cyfoeth y moroedd yn cael ei roi i ti,a cyfoeth y gwledydd yn dod atat.
6 Bydd gyrroedd o gamelod yn llenwi dy strydoedd;camelod o Midian, Effa a Sheba.Byddan nhw'n cario aur a thus,ac yn canu mawl i'r ARGLWYDD.
7 Bydd holl ddefaid a geifr Cedar yn cael eu casglu atat,a bydd hyrddod Nebaioth yna i ti eu defnyddio;byddan nhw'n aberthau derbyniol ar fy allor i.Bydda i'n gwneud fy nhŷ hardd yn harddach fyth!
8 Pwy ydy'r rhain sy'n symud fel cwmwl,ac yn hedfan fel colomennod i'w nythod?
9 Mae cychod yr ynysoedd yn ymgasglu,a llongau masnach Tarshish ar y blaen.Maen nhw'n dod â dy blant o bell,a'u harian a'u haur hefo nhw,i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD dy Dduw –Un Sanctaidd Israel, sydd wedi dy anrhydeddu.
10 Bydd estroniaid yn ailadeiladu dy waliau,a'u brenhinoedd nhw yn dy wasanaethu di.Achos, er fy mod wedi dy daro di pan oeddwn i'n ddigdw i am ddangos tosturi a bod yn garedig.
11 Bydd dy giatiau ar agor drwy'r amser;fyddan nhw ddim yn cael eu cau ddydd na nos –er mwyn i gyfoeth y cenhedloedda'u brenhinoedd gael ei gario i mewn.