8 Pwy ydy'r rhain sy'n symud fel cwmwl,ac yn hedfan fel colomennod i'w nythod?
9 Mae cychod yr ynysoedd yn ymgasglu,a llongau masnach Tarshish ar y blaen.Maen nhw'n dod â dy blant o bell,a'u harian a'u haur hefo nhw,i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD dy Dduw –Un Sanctaidd Israel, sydd wedi dy anrhydeddu.
10 Bydd estroniaid yn ailadeiladu dy waliau,a'u brenhinoedd nhw yn dy wasanaethu di.Achos, er fy mod wedi dy daro di pan oeddwn i'n ddigdw i am ddangos tosturi a bod yn garedig.
11 Bydd dy giatiau ar agor drwy'r amser;fyddan nhw ddim yn cael eu cau ddydd na nos –er mwyn i gyfoeth y cenhedloedda'u brenhinoedd gael ei gario i mewn.
12 Bydd y wlad neu'r deyrnassy'n gwrthod dy wasanaethu yn syrthio;bydd y gwledydd hynny'n cael eu dinistrio'n llwyr.
13 Bydd coed gorau Libanus yn dod i ti –coed cypres, planwydd a pinwydd i harddu fy nghysegr,ac anrhydeddu'r lle mae fy nhraed i'n gorffwys.
14 Bydd plant y rhai oedd yn dy ormesuyn dod o dy flaen ac ymgrymu.Bydd y rhai oedd yn dy gasáuyn plygu'n isel ar y llawr wrth dy draed di.Byddan nhw'n dy alw di yn ‘Ddinas yr ARGLWYDD’,a ‘Seion Un Sanctaidd Israel.’