1 Mae Ysbryd fy Meistr, yr ARGLWYDD, arna i,am fod yr ARGLWYDD wedi fy eneinio i'w wasanaethu.Mae wedi fy anfon i gyhoeddinewyddion da i'r tlodion,i drin briwiau y rhai sydd wedi torri eu calonnau,a chyhoeddi fod y rhai sy'n gaeth i gael rhyddid,ac i ollwng carcharorion yn rhydd;
2 i gyhoeddi fod blwyddyn ffafr yr ARGLWYDD yma,a'r diwrnod pan fydd Duw yn dial;i gysuro'r rhai sy'n galaru –
3 ac i roi i alarwyr Seiondwrban ar eu pennau yn lle lludw,ac olew llawenydd yn lle galar,mantell mawl yn lle ysbryd anobaith.Byddan nhw'n cael eu galw yn goed hardd,wedi eu plannu gan yr ARGLWYDD i arddangos ei ysblander.
4 Byddan nhw'n ailadeiladu'r hen hen adfeilion,yn codi lleoedd oedd wedi eu dinistrio,ac yn adfer trefi oedd wedi eu difaac heb neb yn byw ynddyn nhw ers cenedlaethau.
5 Bydd dieithriaid yn gofalu am dy ddefaid di,ac estroniaid yn aredig y tir ac yn trin y coed gwinwydd.