2 i gyhoeddi fod blwyddyn ffafr yr ARGLWYDD yma,a'r diwrnod pan fydd Duw yn dial;i gysuro'r rhai sy'n galaru –
3 ac i roi i alarwyr Seiondwrban ar eu pennau yn lle lludw,ac olew llawenydd yn lle galar,mantell mawl yn lle ysbryd anobaith.Byddan nhw'n cael eu galw yn goed hardd,wedi eu plannu gan yr ARGLWYDD i arddangos ei ysblander.
4 Byddan nhw'n ailadeiladu'r hen hen adfeilion,yn codi lleoedd oedd wedi eu dinistrio,ac yn adfer trefi oedd wedi eu difaac heb neb yn byw ynddyn nhw ers cenedlaethau.
5 Bydd dieithriaid yn gofalu am dy ddefaid di,ac estroniaid yn aredig y tir ac yn trin y coed gwinwydd.
6 Byddwch chi'n cael eich galw yn "Offeiriaid yr ARGLWYDD","Gweision Duw" fydd y teitl arnoch chi.Byddwch chi'n bwydo ar gyfoeth y cenhedloeddac yn mwynhau eu holl drysorau nhw.
7 Yn lle'r cywilydd byddwch chi'n derbyn siâr ddwbl,ac yn lle'r gwarth byddwch chi'n dathlu yn eich etifeddiaeth.Felly, byddan nhw'n etifeddu siâr ddwbl yn eu tir,ac yn profi llawenydd fydd yn para am byth.
8 Fi ydy'r ARGLWYDD; dw i'n caru cyfiawnder,ac yn casáu gweld lladrata'r offrwm sydd i'w losgi.Bydda i'n siŵr o roi eu gwobr iddyn nhw,a bydda i'n gwneud ymrwymiad gyda nhw fydd yn para am byth.