8 Fi ydy'r ARGLWYDD; dw i'n caru cyfiawnder,ac yn casáu gweld lladrata'r offrwm sydd i'w losgi.Bydda i'n siŵr o roi eu gwobr iddyn nhw,a bydda i'n gwneud ymrwymiad gyda nhw fydd yn para am byth.
9 Bydd eu plant yn adnabyddus ymhlith y cenhedloedd,a'u disgynyddion ymhlith y bobloedd.Bydd pawb sy'n eu gweld nhw yn cydnabodmai nhw ydy'r rhai mae'r ARGLWYDD wedi eu bendithio.
10 Mae'r ARGLWYDD yn fy ngwneud i mor llawen,ac mae fy Nuw yn fy ngwefreiddio i.Mae e wedi fy ngwisgo ag achubiaetha rhoi cyfiawnder yn fantell o'm cwmpas.Dw i fel priodfab yn gwisgo twrban hardd,neu briodferch wedi ei haddurno â'i thlysau.
11 Fel mae planhigion yn tyfu o'r ddaear,a ffrwythau'n tyfu yn yr ardd,bydd fy Meistr, yr ARGLWYDD,yn gwneud i gyfiawnder a moliantdyfu yng ngŵydd y cenhedloedd i gyd.