1 “Er mwyn Seion dw i ddim yn mynd i dewi!Er mwyn Jerwsalem dw i ddim yn mynd i orffwys,nes bydd ei chyfiawnder yn disgleirio fel golau llachara'i hachubiaeth yn llosgi fel ffagl.”
2 Bydd y gwledydd yn gweld dy gyfiawnder,a'r holl frenhinoedd yn gweld dy ysblander;a byddi di'n cael enw newyddgan yr ARGLWYDD ei hun.
3 Byddi fel coron hardd yn llaw yr ARGLWYDD,neu dwrban brenhinol yn llaw dy Dduw.
4 Gei di byth eto yr enw "Gwrthodedig",a fydd dy wlad ddim yn cael ei galw yn "Anialwch".Na, byddi'n cael dy alw "Fy hyfrydwch",a bydd dy wlad yn cael yr enw "Fy mhriod".Achos bydd yr ARGLWYDD wrth ei fodd gyda ti,a bydd dy wlad fel gwraig ffrwythlon iddo.
5 Fel mae bachgen yn priodi merch ifanc,bydd dy blant yn dy briodi di;ac fel mae priodfab wrth ei fodd gyda'i wraig,bydd dy Dduw wrth ei fodd gyda ti.
6 Dw i'n gosod gwylwyr ar dy waliau di, O Jerwsalem.Fyddan nhw ddim yn dawel nos na dydd!Chi sy'n gweddïo ar yr ARGLWYDD, peidiwch tewi;
7 peidiwch rhoi llonydd iddo nes iddo adfer Jerwsalem,a'i gwneud yn destun mawl drwy'r byd.