5 Fel mae bachgen yn priodi merch ifanc,bydd dy blant yn dy briodi di;ac fel mae priodfab wrth ei fodd gyda'i wraig,bydd dy Dduw wrth ei fodd gyda ti.
6 Dw i'n gosod gwylwyr ar dy waliau di, O Jerwsalem.Fyddan nhw ddim yn dawel nos na dydd!Chi sy'n gweddïo ar yr ARGLWYDD, peidiwch tewi;
7 peidiwch rhoi llonydd iddo nes iddo adfer Jerwsalem,a'i gwneud yn destun mawl drwy'r byd.
8 Mae'r ARGLWYDD wedi tyngu llw i'w gryfder:“Dw i ddim yn mynd i roi dy ŷdyn fwyd i dy elynion byth eto!A fydd plant estroniaid ddim yn yfed y gwinwnest ti weithio mor galed amdano.
9 Bydd y rhai sy'n medi'r cynhaeaf yn ei fwytaac yn moli'r ARGLWYDD.A bydd y rhai sy'n casglu'r grawnwinyn yfed y sudd yn fy nghysegr sanctaidd.”
10 Dowch i mewn! Dowch i mewn drwy'r giatiau!Cliriwch y ffordd i'r bobl ddod!Adeiladwch! Adeiladwch briffordd!Symudwch bob carreg sy'n rhwystr!Codwch faner dros y bobloedd!
11 Mae'r ARGLWYDD wedi cyhoeddi hyndrwy'r byd i gyd:“Dwedwch wrth Seion annwyl,‘Edrych! Mae dy Achubwr yn dod!Edrych! Mae ei wobr ganddo;mae'n dod a'i roddion o'i flaen.’”