6 Dw i'n gosod gwylwyr ar dy waliau di, O Jerwsalem.Fyddan nhw ddim yn dawel nos na dydd!Chi sy'n gweddïo ar yr ARGLWYDD, peidiwch tewi;
7 peidiwch rhoi llonydd iddo nes iddo adfer Jerwsalem,a'i gwneud yn destun mawl drwy'r byd.
8 Mae'r ARGLWYDD wedi tyngu llw i'w gryfder:“Dw i ddim yn mynd i roi dy ŷdyn fwyd i dy elynion byth eto!A fydd plant estroniaid ddim yn yfed y gwinwnest ti weithio mor galed amdano.
9 Bydd y rhai sy'n medi'r cynhaeaf yn ei fwytaac yn moli'r ARGLWYDD.A bydd y rhai sy'n casglu'r grawnwinyn yfed y sudd yn fy nghysegr sanctaidd.”
10 Dowch i mewn! Dowch i mewn drwy'r giatiau!Cliriwch y ffordd i'r bobl ddod!Adeiladwch! Adeiladwch briffordd!Symudwch bob carreg sy'n rhwystr!Codwch faner dros y bobloedd!
11 Mae'r ARGLWYDD wedi cyhoeddi hyndrwy'r byd i gyd:“Dwedwch wrth Seion annwyl,‘Edrych! Mae dy Achubwr yn dod!Edrych! Mae ei wobr ganddo;mae'n dod a'i roddion o'i flaen.’”
12 Byddan nhw'n cael eu galw, “Y Bobl Sanctaidd.Pobl Rydd yr ARGLWYDD.”A byddi di, Jerwsalem, yn cael dy alw,“Yr un gafodd ei cheisio,”“Dinas heb ei gwrthod.”