1 Pwy ydy hwn sy'n dod o Edom –o Bosra a'i ddillad yn goch?Pwy ydy'r un, yn ei wisgoedd brenhinol,sy'n martsio'n hyderus a diflino.“Fi ydy e, sy'n cyhoeddi cyfiawnder;yr un sy'n gallu achub.”
2 Pam mae dy ddillad yn goch?Maen nhw fel dillad un sy'n sathru grawnwin.
3 “Dw i wedi sathru'r grawnwin fy hun;doedd neb o gwbl gyda fi.Sethrais nhw yn fy llid,a'i gwasgu dan draed yn fy nicter,nes i'w gwaed nhw sblasio ar fy nillad;dw i wedi staenio fy nillad i gyd.
4 Roedd y diwrnod i ddial ar fy meddwl,a'r flwyddyn i ollwng yn rhydd wedi dod.