2 Pam mae dy ddillad yn goch?Maen nhw fel dillad un sy'n sathru grawnwin.
3 “Dw i wedi sathru'r grawnwin fy hun;doedd neb o gwbl gyda fi.Sethrais nhw yn fy llid,a'i gwasgu dan draed yn fy nicter,nes i'w gwaed nhw sblasio ar fy nillad;dw i wedi staenio fy nillad i gyd.
4 Roedd y diwrnod i ddial ar fy meddwl,a'r flwyddyn i ollwng yn rhydd wedi dod.
5 Pan edrychais, doedd neb yno i helpu;ron i'n synnu fod neb yno i roi cymorth.Felly dyma fi'n mynd ati i achub,a'm dicter yn fy ngyrru ymlaen.
6 Sethrais genhedloedd yn fy llid,a'u meddwi nhw gyda fy nig,a thywallt eu gwaed ar lawr.”
7 Dw i'n mynd i atgoffa pobl mor hael a charedig ydy'r ARGLWYDD,a dw i'n mynd i ganu ei glod –am y cwbl mae'r ARGLWYDD wedi ei wneud i ni,a'r holl bethau da mae e wedi eu gwneud i bobl Israel.Mae e mor drugarog ac mor hael!
8 Meddyliodd: “Fy mhobl i ydyn nhw,plant fydd ddim yn anffyddlon.”Felly dyma fe'n eu hachub nhw.