7 Dw i'n mynd i atgoffa pobl mor hael a charedig ydy'r ARGLWYDD,a dw i'n mynd i ganu ei glod –am y cwbl mae'r ARGLWYDD wedi ei wneud i ni,a'r holl bethau da mae e wedi eu gwneud i bobl Israel.Mae e mor drugarog ac mor hael!
8 Meddyliodd: “Fy mhobl i ydyn nhw,plant fydd ddim yn anffyddlon.”Felly dyma fe'n eu hachub nhw.
9 Pan oedden nhw'n diodde roedd e'n diodde hefyd,a dyma fe'n anfon ei angel i'w hachub.Yn ei gariad a'i drugaredd,daeth i'w gollwng nhw'n rhydd.Cododd nhw, a'u cario nhwar hyd y cyfnod hwnnw.
10 Ond dyma nhw'n gwrthryfela,ac yn tristáu ei Ysbryd Glân.Felly trodd yn elyn iddyn nhw,ac ymladd yn eu herbyn nhw.
11 Yna dyma fe'n cofio'r hen ddyddiau –Moses … a'i bobl!Ble mae'r Un ddaeth â nhw drwy'r Môrgyda bugeiliaid ei braidd?Ble mae'r Un wnaeth roiei Ysbryd Glân yn eu plith nhw –
12 yr Un wnaeth roi ei nerth i Moses?Ble mae'r Un wnaeth hollti'r môr o'u blaenaua gwneud enw iddo'i hun am byth?
13 Ble mae'r Un wnaeth eu harwain nhw drwy'r dyfnderfel ceffyl yn carlamu ar dir agored?