1 O na fyddet ti'n rhwygo'r awyr a dod i lawr,nes bod y mynyddoedd yn crynu o dy flaen di –
2 byddai fel tân yn llosgi brigau sych,neu'n gwneud i ddŵr ferwi –i dy elynion ddod i wybod pwy wyt tiac i'r cenhedloedd grynu o dy flaen di!
3 Roeddet ti'n arfer gwneud pethau syfrdanol,cwbl annisgwyl!Roeddet ti'n dod i lawrac roedd y mynyddoedd yn crynu o dy flaen.
4 Does neb erioed wedi clyweda does neb wedi gweld Duw tebyg i ti,sy'n gweithredu o blaid y rhai sy'n ei drystio fe.