2 byddai fel tân yn llosgi brigau sych,neu'n gwneud i ddŵr ferwi –i dy elynion ddod i wybod pwy wyt tiac i'r cenhedloedd grynu o dy flaen di!
3 Roeddet ti'n arfer gwneud pethau syfrdanol,cwbl annisgwyl!Roeddet ti'n dod i lawrac roedd y mynyddoedd yn crynu o dy flaen.
4 Does neb erioed wedi clyweda does neb wedi gweld Duw tebyg i ti,sy'n gweithredu o blaid y rhai sy'n ei drystio fe.
5 Ti'n helpu'r rhai sy'n mwynhau gwneud beth sy'n iawn,ac sy'n cofio sut un wyt ti.Er dy fod ti'n ddig am ein bod ni'n pechu o hyd,gallen ni ddal gael ein hachub!
6 Ond bellach dŷn ni i gyd fel rhywbeth aflan,mae hyd yn oed ein gorau ni fel dillad isaf budron.Dŷn ni i gyd wedi gwywo fel deilen,Ac mae'n methiant, fel y gwynt, yn ein chwythu i ffwrdd.
7 Does neb yn galw ar dy enw di,nac yn gwneud ymdrech i ddal gafael ynot ti.Ti wedi troi i ffwrdd oddi wrthon ni,a gwneud i ni wynebu'n methiant!
8 Ac eto, ARGLWYDD, ti ydy'n Tad ni!Gwaith dy ddwylo di ydyn ni –ni ydy'r clai a ti ydy'r crochenydd.