7 Does neb yn galw ar dy enw di,nac yn gwneud ymdrech i ddal gafael ynot ti.Ti wedi troi i ffwrdd oddi wrthon ni,a gwneud i ni wynebu'n methiant!
8 Ac eto, ARGLWYDD, ti ydy'n Tad ni!Gwaith dy ddwylo di ydyn ni –ni ydy'r clai a ti ydy'r crochenydd.
9 Paid gwylltio'n llwyr hefo ni, ARGLWYDD!Paid dal dig am ein methiant am byth!Edrych arnon ni i gyd, dy bobl!
10 Mae dy drefi sanctaidd yn anialwch!Mae Seion yn anialwch,a Jerwsalem yn adfeilion.
11 Mae'r deml gysegredig a harddble roedd ein hynafiaid yn dy foli di,wedi cael ei llosgi'n ulw.Mae ein trysorau'n beil o rwbel.
12 Wyt ti'n mynd i ddal i ymataler gwaetha hyn i gyd, ARGLWYDD?Wyt ti'n mynd i sefyll yna'n daweltra dŷn ni'n cael ein cosbi mor drwm?