12 Dw i'n eich condemnio i gael eich lladd gan y cleddyf!Byddwch chi'n penlinio i gael eich dienyddio –achos roeddwn i'n galw, a wnaethoch chi ddim ateb;roeddwn i'n siarad, a wnaethoch chi ddim gwrando.Roeddech chi'n gwneud pethau oeddwn i'n eu casáu,ac yn dewis pethau oedd ddim yn fy mhlesio.”
13 Felly dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD yn ei ddweud:“Bydd fy ngweision yn bwyta, a chi'n llwgu.Bydd fy ngweision yn yfed, a chi'n sychedu.Bydd fy ngweision yn llawen, a chi'n cael eich cywilyddio.
14 Bydd fy ngweision yn canu'n braf, a chi'n wylo mewn poen,ac yn griddfan mewn gwewyr meddwl.
15 Bydd eich enw yn cael ei ddefnyddio fel melltithgan y rhai dw i wedi eu dewis.Bydd y Meistr, yr ARGLWYDD, yn dy ladd di!Ond bydd enw hollol wahanol gan ei weision.
16 Bydd pwy bynnag drwy'r byd sy'n derbyn bendithyn ei gael wrth geisio bendith gan y Duw ffyddlon;a'r sawl yn unman sy'n tyngu llw o ffyddlondebyn ei gael wrth dyngu llw i enw'r Duw ffyddlon.Bydd trafferthion y gorffennol yn cael eu hanghofio,ac wedi eu cuddio o'm golwg.
17 Achos dw i'n mynd i greunefoedd newydd a daear newydd!Bydd pethau'r gorffennol wedi eu hanghofio;fyddan nhw ddim yn croesi'r meddwl.
18 Ie, dathlwch a mwynhau am bythyr hyn dw i'n mynd i'w greu.Achos dw i'n mynd i greuJerwsalem i fod yn hyfrydwch,a'i phobl yn rheswm i ddathlu.