2 Bues i'n estyn fy llaw drwy'r amserat bobl oedd yn gwrthryfela;pobl yn gwneud beth oedd ddim yn dda,ac yn dilyn eu mympwy eu hunain.
3 Roedden nhw yn fy nigio o hyd ac o hyd –yn aberthu yn y gerddi paganaiddac yn llosgi aberthau ar allor frics;
4 yn eistedd yng nghanol beddau,ac yn treulio'r nos mewn mannau cudd;yn bwyta cig mocha phowlenni o gawl gyda cig aflan ynddo;
5 neu'n dweud, ‘Cadw draw!dw i'n rhy lân i ti ddod yn agos ata i!’Mae pobl fel yna yn gwneud i mi wylltio,mae fel tân sy'n llosgi heb stopio.
6 Edrychwch! Mae wedi ei gofnodi o'm blaen i!Dw i ddim am ei ddiystyru –dw i'n mynd i dalu'n ôl yn llawn!Talu'n ôl i bob un ohonyn nhw am eu pechodau,
7 a phechodau eu hynafiaid hefyd.”—meddai'r ARGLWYDD—“Roedden nhw'n llosgi arogldarth ar y mynyddoedd,ac yn fy enllibio i ar y bryniau.Bydda i'n talu'n ôl iddyn nhw'n llawnam bopeth wnaethon nhw o'r dechrau cyntaf!”
8 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Fel mae sudd da mewn swp o rawnwin,a rhywun yn dweud, ‘Paid difetha fe; mae daioni ynddo,’felly y bydda i'n gwneud er mwyn fy ngweision –fydda i ddim yn eu dinistrio nhw i gyd.