9 Bydda i'n rhoi disgynyddion i Jacob,a pobl i etifeddu fy mynyddoedd yn Jwda.Bydd y rhai dw i wedi eu dewis yn eu feddiannu,a bydd fy ngweision yn byw yno.
10 Bydd Saron yn borfa i ddefaid,a Dyffryn Achor, sy'n le i wartheg orwedd,yn eiddo i'r bobl sy'n fy ngheisio i.
11 Ond chi sydd wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD,a diystyru fy mynydd cysegredig i;chi sy'n gosod bwrdd i'r duw ‘Ffawd,’ac yn llenwi cwpanau o win i'r duw ‛Tynged‛.
12 Dw i'n eich condemnio i gael eich lladd gan y cleddyf!Byddwch chi'n penlinio i gael eich dienyddio –achos roeddwn i'n galw, a wnaethoch chi ddim ateb;roeddwn i'n siarad, a wnaethoch chi ddim gwrando.Roeddech chi'n gwneud pethau oeddwn i'n eu casáu,ac yn dewis pethau oedd ddim yn fy mhlesio.”
13 Felly dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD yn ei ddweud:“Bydd fy ngweision yn bwyta, a chi'n llwgu.Bydd fy ngweision yn yfed, a chi'n sychedu.Bydd fy ngweision yn llawen, a chi'n cael eich cywilyddio.
14 Bydd fy ngweision yn canu'n braf, a chi'n wylo mewn poen,ac yn griddfan mewn gwewyr meddwl.
15 Bydd eich enw yn cael ei ddefnyddio fel melltithgan y rhai dw i wedi eu dewis.Bydd y Meistr, yr ARGLWYDD, yn dy ladd di!Ond bydd enw hollol wahanol gan ei weision.