1 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Y nefoedd ydy fy ngorsedd i,a'r ddaear ydy fy stôl droed i.Ble allech chi adeiladu teml fel yna i mi?Ble dych chi am ei roi i mi i orffwys?
2 Onid fi sydd wedi creu popeth sy'n bodoli?Fi ddaeth â nhw i fod!”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.“Ac eto dyma pwy dw i'n cymryd sylw ohonyn nhw:Y rhai tlawd sy'n teimlo'n annigonolac sy'n parchu fy neges.
3 Ond am y bobl sy'n lladd ychen ac yna'n llofruddio rhywun,yn aberthu oen ac yna'n torri gwddf ci,yn cyflwyno offrwm o rawn ac yna'n aberthu gwaed moch,yn llosgi arogldarth ac yna'n addoli eilun-dduwiau –maen nhw wedi dewis mynd eu ffordd eu hunainac yn mwynhau gwneud y pethau ffiaidd yma –
4 bydda i'n dewis eu cosbi nhw'n llym,a throi eu hofnau gwaetha yn realiti.Pan oeddwn i'n galw, wnaeth neb ateb;pan oeddwn i'n siarad, doedd neb yn gwrando.Roedden nhw'n gwneud pethau oeddwn i'n eu casáu,ac yn dewis pethau oedd ddim yn fy mhlesio.”
5 Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD,chi sy'n parchu beth mae'n ei ddweud!Mae eich pobl eich hunain yn eich casáu chia'ch cau chi allan am sefyll drosta i.Maen nhw'n dweud yn wawdlyd:“Boed i'r ARGLWYDD gael ei anrhydeddu,i ni eich gweld chi'n cael eich gwneud yn hapus.”Ond byddan nhw'n cael eu cywilyddio.