10 Byddwch yn llawen dros Jerwsalema dathlu gyda hi,bawb ohonoch chi sy'n ei charu!Ymunwch yn y dathlu,chi fu'n galaru drosti –
11 i chi gael sugno ei bronnau a chael eich bodloni,cael blas wrth lepian ar hyfrydwch ei thethi.
12 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Dw i'n rhoi iddi heddwch perffaith fel afon,a bydd cyfoeth y cenhedloedd fel ffrwd yn gorlifo iddi.Byddwch yn cael sugno ei bronnau a'ch cario fel babi,ac yn chwarae ar ei gliniau fel plentyn bach.
13 Bydda i'n eich cysuro chi fel mam yn cysuro ei phlentyn;byddwch chi'n cael eich cysuro yn Jerwsalem.”
14 Byddwch wrth eich bodd wrth weld hyn,a bydd eich corff cyfan yn cael ei adnewyddu.Bydd hi'n amlwgfod nerth yr ARGLWYDD gyda'i weision;ond ei fod wedi digio gyda'i elynion.
15 Ydy, mae'r ARGLWYDD yn dod mewn tânac mae sŵn ei gerbydau fel corwynt.Mae'n dod i ddangos ei fod yn ddig,ac i geryddu gyda fflamau tân.
16 Achos bydd yr ARGLWYDD yn barnu pawbhefo tân a gyda'i gleddyf,a bydd llawer yn cael eu lladd ganddo.