14 Byddwch wrth eich bodd wrth weld hyn,a bydd eich corff cyfan yn cael ei adnewyddu.Bydd hi'n amlwgfod nerth yr ARGLWYDD gyda'i weision;ond ei fod wedi digio gyda'i elynion.
15 Ydy, mae'r ARGLWYDD yn dod mewn tânac mae sŵn ei gerbydau fel corwynt.Mae'n dod i ddangos ei fod yn ddig,ac i geryddu gyda fflamau tân.
16 Achos bydd yr ARGLWYDD yn barnu pawbhefo tân a gyda'i gleddyf,a bydd llawer yn cael eu lladd ganddo.
17 “Mae hi ar ben ar bawb sy'n cysegru eu hunain a mynd trwy'r ddefod o ‛buro‛ eu hunain i ddilyn yr un yn y canol ac addoli yn y gerddi paganaidd, gan wledda ar gig moch a phethau ffiaidd eraill fel llygod,” meddai'r ARGLWYDD.
18 “Dw i'n gwybod beth maen nhw'n ei wneud a'i feddwl. Dw i'n mynd i gasglu'r gwledydd i gyd, a phobl o bob iaith, iddyn nhw ddod a gweld fy ysblander i.
19 Bydda i'n gosod arwydd yn eu canol nhw, ac anfon at y cenhedloedd rai o'r bobl fydd wedi llwyddo i ddianc: i Tarshish, at y Libiaid a'r Lydiaid (y rhai sy'n defnyddio bwa saeth); i Twbal, Groeg, a'r ynysoedd pell sydd heb glywed sôn amdana i na gweld fy ysblander i. Byddan nhw'n dweud wrth y cenhedloedd am fy ysblander i.
20 A byddan nhw'n dod â'ch perthnasau o'r gwledydd i gyd yn offrwm i'r ARGLWYDD. Dod â nhw ar gefn ceffylau, mewn wagenni a throlïau, ar gefn mulod a chamelod, i Jerwsalem, fy mynydd sanctaidd”—meddai'r ARGLWYDD—“yn union fel mae pobl Israel yn dod ag offrwm o rawn i deml yr ARGLWYDD mewn llestr glân.