18 “Dw i'n gwybod beth maen nhw'n ei wneud a'i feddwl. Dw i'n mynd i gasglu'r gwledydd i gyd, a phobl o bob iaith, iddyn nhw ddod a gweld fy ysblander i.
19 Bydda i'n gosod arwydd yn eu canol nhw, ac anfon at y cenhedloedd rai o'r bobl fydd wedi llwyddo i ddianc: i Tarshish, at y Libiaid a'r Lydiaid (y rhai sy'n defnyddio bwa saeth); i Twbal, Groeg, a'r ynysoedd pell sydd heb glywed sôn amdana i na gweld fy ysblander i. Byddan nhw'n dweud wrth y cenhedloedd am fy ysblander i.
20 A byddan nhw'n dod â'ch perthnasau o'r gwledydd i gyd yn offrwm i'r ARGLWYDD. Dod â nhw ar gefn ceffylau, mewn wagenni a throlïau, ar gefn mulod a chamelod, i Jerwsalem, fy mynydd sanctaidd”—meddai'r ARGLWYDD—“yn union fel mae pobl Israel yn dod ag offrwm o rawn i deml yr ARGLWYDD mewn llestr glân.
21 A bydda i'n dewis rhai ohonyn nhw i fod yn offeiriaid ac yn Lefiaid,” meddai'r ARGLWYDD.
22 “Fel y bydd y nefoedd newydd a'r ddaear newydddw i'n mynd i'w gwneud yn aros am byth o'm blaen i”—meddai'r ARGLWYDD—“felly y bydd eich plant a'ch enw chi yn aros.
23 O un Ŵyl y lleuad newydd i'r llall,ac o un saboth i saboth arall,bydd pawb yn dod i addoli o'm blaen i.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
24 “Byddan nhw'n mynd allan ac yn gweldcyrff y rhai hynny oedd wedi gwrthryfela yn fy erbyn i:Fydd y cynrhon ynddyn nhw ddim yn marw,na'r tân sy'n eu llosgi nhw yn diffodd;byddan nhw'n ffiaidd yng ngolwg pawb.”