4 bydda i'n dewis eu cosbi nhw'n llym,a throi eu hofnau gwaetha yn realiti.Pan oeddwn i'n galw, wnaeth neb ateb;pan oeddwn i'n siarad, doedd neb yn gwrando.Roedden nhw'n gwneud pethau oeddwn i'n eu casáu,ac yn dewis pethau oedd ddim yn fy mhlesio.”
5 Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD,chi sy'n parchu beth mae'n ei ddweud!Mae eich pobl eich hunain yn eich casáu chia'ch cau chi allan am sefyll drosta i.Maen nhw'n dweud yn wawdlyd:“Boed i'r ARGLWYDD gael ei anrhydeddu,i ni eich gweld chi'n cael eich gwneud yn hapus.”Ond byddan nhw'n cael eu cywilyddio.
6 Gwrandwch! Mae twrw yn dod o'r ddinas,a sŵn yn dod o'r deml!Sŵn yr ARGLWYDD yn talu'n ôl i'w elynion.
7 All gwraig gael plentyn heb boenau geni?All hi eni mab cyn i'r pyliau ddechrau?
8 Na! Pwy glywodd am y fath beth?Pwy welodd rywbeth felly'n digwydd?Ydy gwlad yn geni plant mewn diwrnod?Ydy cenedl yn dod i fod mewn moment?Ond dyma Seion newydd ddechrau esgorac mae eisoes wedi cael ei phlant!
9 “Fyddwn i'n gadael i'r dŵr dorri heb eni plentyn?”—yr ARGLWYDD sy'n gofyn.“Fyddwn i'n dechrau'r broses eni, ac yna'n ei rhwystro?”—ie, dy Dduw sy'n gofyn.
10 Byddwch yn llawen dros Jerwsalema dathlu gyda hi,bawb ohonoch chi sy'n ei charu!Ymunwch yn y dathlu,chi fu'n galaru drosti –