13 Yna dwedodd Eseia, “Gwrandwch, balas Dafydd. Ydy ddim digon eich bod chi'n trethu amynedd pobl heb orfod trethu amynedd fy Nuw hefyd?
14 Felly, mae'r Meistr ei hun yn mynd i roi arwydd i chi! Edrychwch, bydd y ferch ifanc yn feichiog, ac yn cael mab – a bydd y plentyn yn cael ei alw yn Emaniwel.
15 Cyn iddo ddod i wybod y gwahaniaeth rhwng drwg a da, bydd yn bwyta caws colfran a mêl.
16 Cyn iddo allu gwrthod y drwg a dewis y da, bydd tir y ddau frenin wyt ti'n eu hofni wedi ei adael yn wag.
17 “Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i ti a dy bobl a phalas dy dad fynd trwy gyfnod na fu ei debyg ers i Effraim wrthryfela yn erbyn Jwda – bydd yn dod â brenin Asyria yma.”
18 Bryd hynny,bydd yr ARGLWYDD yn chwibanu ar y gwybedsydd yn afonydd pell yr Aiffta'r gwenyn sydd yng ngwlad Asyria.
19 Byddan nhw'n dod ac yn glanioyn y wadïau sertha'r hafnau sy'n y creigiau,yn y llwyni draina'r lleoedd i ddyfrio anifeiliaid.