2 Pan ddaeth y newyddion i balas brenhinol Dafydd fod Syria ac Effraim mewn cynghrair, roedd y brenin a'r bobl wedi cynhyrfu. Roedden nhw fel coed yn y goedwig yn ysgwyd o flaen y gwynt.
3 Felly dwedodd yr ARGLWYDD wrth Eseia, “Dos hefo dy fab Shear-iashŵf i gyfarfod ag Ahas wrth derfyn y sianel ddŵr sy'n dod o'r Llyn Uchaf, ar ffordd Maes y Golchwyr.
4 Dywed wrtho: ‘Paid panicio. Paid bod ag ofn. Does dim rhaid torri dy galon am fod Resin a'r Syriaid a mab Remaleia wedi gwylltio – dau stwmp ydyn nhw; dim mwy na ffaglau myglyd!’
5 Mae'r Syriaid – hefo Effraim a mab Remaleia – wedi cynllwynio yn dy erbyn di, a dweud,
6 ‘Gadewch i ni ymosod ar Jwda, codi ofn arni a'i gorchfygu. Yna gallwn osod mab Tafél yn frenin arni.’
7 “Ond dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud:Fydd y cynllun ddim yn llwyddo,Fydd y peth ddim yn digwydd.
8-9 Damascus ydy prifddinas Syria,a Resin ydy pennaeth Damascus.Samaria ydy prifddinas Effraim,a Remaleia ydy pennaeth Samaria.Mewn llai na chwe deg pum mlyneddBydd Effraim wedi chwalu a peidio â bod yn bobl.Os na wnewch chi gredu,wnewch chi'n sicr ddim sefyll.”